Wyt ti am wella dy ysgrifennu academaidd? Wyt ti am ddysgu sut i roi cyflwyniad gwych? Neu ddatblygu trefn astudio a fydd yn dy helpu i ffynnu? Dere draw i’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd ar ei newydd wedd – dy siop dan yr unto am bopeth sy’n ymwneud ag astudio.
Drwy gydol y tymor, mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnal rhaglen lawn o dros 100 o weithdai gwahanol ar ystod eang o sgiliau astudio allweddol, gan gynnwys:
- Sgiliau Microsoft
- Datblygu Sgiliau Meddwl yn Feirniadol
- Ysgrifennu Academaidd
- Sgiliau Traethawd Estynedig
- Sgiliau Cyflwyno
- Uniondeb Academaidd
- Defnyddio Deallusrwydd Academaidd
- Mathemateg ac Ystadegau
- Ysgrifennu Academaidd yn Gymraeg
- a llawer, llawer mwy….
Caiff y gweithdai eu cynnal ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae, yn ogystal ag ar-lein. Clicia ar y ddolen isod i weld y rhestr lawn o weithdai a chadwa dy le.
Sylwer – bydd y dudalen Digwyddiadau bob amser yn dangos y gweithdai sydd ar gael dros y pythefnos nesaf.Rho lyfrnod ar gyfer y dudalen a gwiria’n rheolaidd i ddod o hyd i weithdai sy’n gallu dy helpu yn ystod y tymor.
Apwyntiadau wyneb-yn-wyneb
Gelli di hefyd drefnu apwyntiadau unigol gydag aelod o staff sy’n gallu cynnig cyngor ar dy waith academaidd.
Gelli di hefyd drefnu apwyntiadau unigol gydag aelod o staff sy’n gallu cynnig cyngor ar dy waith academaidd.
E-bost: academicsuccess@abertawe.ac.uk
Dere i ymweld â ni yn: Bloc y Stablau, Abaty Singleton, Campws Parc Singleton