Ynglŷn â'r astudiaeth

Dibynadwyedd a Dilysrwydd Systemau Mesur Biomecanyddol a Niwro-gyhyrol i Asesu Unigolion ag Anaf ACL.

Mae’r astudiaeth yn cynnwys mesur patrymau symud a rheolaeth niwro-gyhyrol, gan ddefnyddio dulliau cofnodi symudiad 3D, unedau mesur inertiol, electromyograffeg a dynamomedr isocinetig.

  • Ydych chi’n athletwr gwrywaidd neu fenywaidd?
  • Ydych chi rhwng 18 a 45 oed?
  • Ydych chi’n gwneud ymarfer corff o leiaf ddwywaith yr wythnos?
  • Ac ydych chi heb hanes o anaf ACL?

Caiff yr astudiaeth ei chynnal dros ddau ymweliad, dwy wythnos ar wahân, ym Mhrifysgol Abertawe, ar Gampws y Bae.