Mae ein harbenigwyr gyrfaoedd, Academi Cyflogadwyedd Abertawe, yn cynnal llawer o ddigwyddiadau drwy gydol mis Hydref i ti, gan ddechrau gyda ffair swyddi rhan-amser ddydd Mawrth.

Gelli di weld yr holl fanylion am y digwyddiadau isod:

Rydym yn dod â llu o gyflogwyr lleol at ei gilydd mewn un lle sydd oll yn chwilio am bobl i lenwi swyddi rhan-amser, interniaethau a chyfleoedd gwirfoddoli.

Ymuna â ni ar 1 Hydref rhwng 10am a 12 hanner dydd yn Taliesin, Campws Singleton a rhwng 1pm a 3pm yn Y Twyni, Campws y Bae.
Cofia ddefnyddio CareerSet, ein gwiriwr CV, i dy helpu i deilwra dy CV a chael adborth AI.

Ymunwch â ni a dros 60 o sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Rolls-Royce, Hill Dickinson LLP a KLA, i enwi dim ond rhai, am ddau ddigwyddiad ar draws y ddau gampws ar:

Darganfyddwch gyfleoedd sy’n agored i fyfyrwyr o’r holl gyfadrannau a disgyblaethau, a phob blwyddyn astudio, gan gynnwys cynlluniau/rolau i raddedigion, interniaethau, lleoliadau gwaith ac astudiaethau pellach.