Helô i’n myfyrwyr newydd a fydd yn ymuno â ni eleni, a chroeso i Chwaraeon Abertawe.

Rydym wedi cael cymaint o hwyl yn cwrdd â chi gyd yn ystod y cyfnod cyrraedd ac yn Ffair y Glas, lle gwnaethoch weld yr holl gyfleoedd chwaraeon gwahanol sydd ar gael i chi!

Gwnaeth ein rhaglen Bod yn ACTIF siarad â thros 1000 ohonoch chi, gyda 640 ohonoch yn cofrestru a thros 400 ohonoch eisoes wedi cofrestru i ddod i sesiwn, anhygoel! Mae dros 620 ohonoch chi eisoes wedi ymuno â chlwb! Mae treialon a sesiynau rhagflas ar gyfer clybiau yn dal i fod ar gael i chi gofrestru ar eu cyfer, felly peidiwch â cholli cyfle ac ymunwch â ni heddiw. Gallwch edrych ar yr holl glybiau gwahanol sydd gennym yma a’n rhaglen Get ACTIVE yma.

Os gwnaethoch ein methu yn Ffair y Glas, a bod gennych gwestiynau o hyd, yna anfonwch neges atom ar Instagram a byddwn yn hapus i helpu! Dilynwch ni am y newyddion diweddaraf am Chwaraeon yn Abertawe, cyflawniadau anhygoel ein hathletwyr, cyfleoedd i chi a mwy!

Gobeithiwn eich bod wedi cael amser gwych yn ystod eich wythnosau cyntaf, a gwelwn ni chi’n fuan!