Os ydych chi’n angerddol am sicrhau profiad academaidd o’r ansawdd uchaf i fyfyrwyr, yna dylech ymuno â’n Cymuned Myfyrwyr Adolygu.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant a mentora pwrpasol cyn darparu llais myfyriwr hanfodol wrth gymeradwyo rhaglenni, mewn adolygiadau ansawdd, dylunio cwricwlwm a llawer mwy. Byddwch yn chwarae rôl hollbwysig wrth lywio ein dyfodol academaidd yn Abertawe!

Beth yw’r manteision i chi?

Byddwch yn cael cymaint o’r profiad. Byddwch chi’n derbyn gwybodaeth bwysig am sut caiff rhaglenni eu datblygu, ond byddwch hefyd yn gwneud ffrindiau ac yn ennill sgiliau gwerthfawr sy’n drosglwyddadwy. Byddwch yn:

  • Ennill tystiolaeth o’ch natur broffesiynol a’ch gallu i gymryd cyfrifoldeb
  • Magu profiad uniongyrchol o ddiwylliant rheoli/gweinyddol a arweinir gan werthoedd
  • Datblygu hyder mewn amgylcheddau cyfarfod
  • Gwella eich gallu i gyfrannu at drafodaethau academaidd a gwneud penderfyniadau
  • Gwella eich gallu i drin gwybodaeth gyfrinachol a gweithio’n unol â deddfau diogelu data
  • Datblygu hunanhyder, sgiliau trefnu amser, sgiliau blaenoriaethu gwaith ac ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus

 A llawer mwy!

 Sut gallaf gofrestru?

Os hoffech gofrestru, mynegi eich diddordeb, neu ddarganfod mwy, ewch i’n tudalen we MyUni a chysylltwch â’n tîm.