Cynhelir yr Wythnos Ailgylchu rhwng 14 a 20 Hydref, gyda’r thema “Achub Fi – Ailgylcha”.
Mae gan Dîm Cynaliadwyedd y Brifysgol ystod eang o ddigwyddiadau wedi’u trefnu drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys glanhau’r traeth, garddio a sesiynau cadwraeth yn ogystal â mentrau gyda phartneriaid cymunedol.
Mae croeso i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd.