Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe’n agor ei gromgelloedd yn ddiweddarach yn y mis er mwyn rhannu rhai o drysorau cudd ei gasgliadau.

Bydd y digwyddiad deuddydd arbennig hwn yn Ystafell Ddarganfod y Llyfrgell Ganolog ar 18 a 19 Hydref yn cynnig y cyfle i ymwelwyr gael cipolwg agos ar argraffiad cyntaf o ‘On the Origin of Species’, y cyhoeddiad gan Charles Darwin a newidiodd y byd, yn ogystal â llyfr hynaf y llyfrgell, a gyhoeddwyd ym 1489.

Thema’r digwyddiad eleni yw ‘Adeiladu Llyfrgell’ a bydd yn adrodd y straeon sy’n ymwneud â chreu llyfrgelloedd, gan ddangos pwy roddodd lyfrau i lyfrgelloedd yn Abertawe, sut mae casgliadau wedi datblygu, a sut mae llyfrgelloedd yn mynd i’r afael â llenyddiaeth ddadleuol.