/ Caffi Atgyweirio
People mending items at a repair café

Caffi Atgyweirio

23rd Hydref 2024
6:00 pm - 8:00 pm

Tŷ Fulton, Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe (United Kingdom)

*Os bydd y digwyddiad yn llawn gallwch ddod o hyd!*

Mae Canolfan yr Amgylchedd yn cynnal Caffi Atgyweirio ar Gampws Singleton ym Mhrifysgol Abertawe!

 

Lleoliad: Ystafell Gemau Harbwr, Llawr Cyntaf Tŷ Fulton, Campws Singleton

 

Ar agor i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe. Bydd y gwirfoddolwyr yn gwneud eu gorau i drwsio eich eitemau, am ddim!

 

Dargyfeirio gwastraff o dirlenwi, hybu’r economi gylchol ac estyn hyd oes eich eitemau!

 

Dyma’r math o eitemau sy’n addas i’r Caffi Atgyweirio:

  • Atgyweirio dillad, clustogau a bagiau ffabrig
  • Cyfrifiaduron: caledwedd a meddalwedd
  • Eitemau trydanol y cartref e.e. tostwyr, tegelli, sychwyr gwallt (dim nwyddau gwyn)
  • Gemwaith
  • Atgyweiriadau cyffredinol i nwyddau’r cartref ac ornaments e.e. gludo, trwsio, gwaith pren etc.
  • Gwirio diogelwch beiciau a chynnal a chadw sylfaenol
  • Fydd yr atgyweirwyr ddim yn trwsio ffonau/sgriniau ond gallan nhw geisio glanhau’r ardal wefru

 

Ceisiwch gadw lle neu gallwch ddod draw ar y diwrnod! Y cyntaf i’r felin fydd hi! Mae croeso i chi ddod, hyd yn oed os bydd y tocynnau ar Eventbrite i gyd wedi’u gwerthu.

 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

 

Os oes gennych gwestiynau, e-bostiwch y Tîm Cynaliadwyedd.