Gobeithiwn eich bod chi’n cael amser gwych yn Abertawe hyd yma. Rydyn ni’n gwybod y gall symud i ffwrdd o gartref a dechrau ar y bennod newydd hon fod yn gyffrous ac yn heriol, yn enwedig pan ddaw i wneud ffrindiau newydd. P’un a ydych chi’n berson swil neu’n llawn hyder, mae digon o gyfleoedd i chi gysylltu â’ch cyfoedion a datblygu perthnasoedd ystyrlon yn ystod eich amser yma:
Dod i adnabod eich cyd-breswylwyr – Does dim angen i chi deimlo pwysau i fynd i bob digwyddiad cymdeithasol gyda’ch cyd-breswylwyr, ond gallwch chi ddod i’w hadnabod nhw serch hynny! Beth am wneud paned a chael sgwrs? Efallai y byddwch chi’n synnu faint sydd gennych chi’n gyffredin.
Creu grŵp astudio – Nid yn unig mae creu grwpiau astudio’n eich helpu’n academaidd ond mae hefyd yn eich galluogi chi i ddod i adnabod eich cyfoedion. Rydych chi’n astudio’r un pwnc, felly mae gennych chi eisoes rywbeth yn gyffredin. Defnyddiwch hynny fel ffordd o sbarduno sgwrs!
Ymuno â chymdeithas – Mae ein Hundeb y Myfyrwyr yn cefnogi amrywiaeth enfawr o gymdeithasau, o chwaraeon a hobïau i grwpiau academaidd. Mae ymuno â chymdeithas sy’n gysylltiedig â’ch diddordebau yn ffordd wych o gwrdd ag unigolion o’r un meddylfryd.
Bod yn actif – p’un a ydych chi’n newydd i chwaraeon ac ymarfer corff neu’n athletwr brwd, bydd y cyfleoedd iawn ar gael i chi yma. Rygbi, pêl-rwyd, frisbi eithafol, Quidditch, a mwy neu lai popeth rhyngddynt – gallwch chi ddod o hyd i’ch tîm neu’ch cynghrair gymdeithasol newydd chi ar ein tudalennau gwe chwaraeon.
Os nad yw chwaraeon tîm at eich dant chi, gallwch chi gwrdd â phobl newydd drwy ddod i un o’n sesiynau Bod yn Actif neu ymuno â’r gampfa.
I bobl sy’n hoffi gwneud ymarfer corff mewn ffordd fwy hamddenol, mae ein tîm BywydCampws gwych yn cynnig sesiynau myfyrio, ioga, gweithdai ymestyn a llawer o wibdeithiau llawn hwyl yn ystod y flwyddyn. Beth am gael cipolwg!
Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol – mae llawer o grwpiau a thudalennau cyfryngau cymdeithasol gwahanol ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe, felly beth am ymuno ag un ohonynt a dod i adnabod pobl ar-lein yn gyntaf? Gallwch chi hefyd ganfod grwpiau sy’n gysylltiedig â’ch diddordebau chi yn eich ardal leol.
Archwilio Abertawe – mae Abertawe yn ddinas fywiog a chynhwysol sydd â llawer i’w gynnig. Gallech chi gwrdd â chyd-fyfyrwyr drwy fynd i gaffis, barau a digwyddiadau lleol. Mae ein Hundeb y Myfyrwyr yn cynnal llu o ddigwyddiadau ar y campws ac o’i gwmpas hefyd. Gallwch chi wirio’r rhestr lawn ar eu tudalen Beth sy’n digwydd. Mae rhywbeth at ddant pawb ac nid yw popeth yn cynnwys alcohol a nosweithiau hwyr!
Rhoi o’ch amser – Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd wrth gael effaith gadarnhaol ar y gymuned. Yma yn Abertawe, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Discovery – Gwirfoddoli i Fyfyrwyr, sy’n lle gwych i ddechrau.
Cerdded gyda Molly – Ydych chi wedi cwrdd â Molly, ein masgot campws answyddogol ond gwych? Mae hi’n adargi melyn hyfryd ac yn flew i gyd. Gallwch chi gwrdd â hi y tu allan i Dŷ Fulton ar ddydd Iau rhwng 12pm a 1pm. Mae tîm BywydCampws hefyd wedi trefnu sesiynau misol mynd â’r ci am dro gyda Molly. Cewch ragor o wybodaeth fan hyn. Dewch i gwrdd â myfyrwyr eraill (sy’n dwlu ar gŵn) ac estyn eich coesau ar yr un pryd.
Gobeithiwn fod yr wybodaeth hon wedi bod yn ddefnyddiol i chi. Cofiwch fod gwneud ffrindiau’n cymryd amser, ac mae’n iawn i deimlo ychydig yn nerfus i ddechrau. Byddwch yn amyneddgar gyda chi’ch hun, a pheidiwch â cholli gobaith yn wyneb rhwystrau. Mae Prifysgol Abertawe yn gymuned amrywiol a chroesawgar, ac fe fyddwch chi’n dod o hyd i ffrindiau sy’n rhannu eich diddordebau a’ch gwerthoedd! Os bydd byth angen i chi siarad â rhywun neu gael cyngor ar iechyd meddwl, neu sut i ymdopi â theimladau unigrwydd, ewch i’n gwasanaethau cymorth a lles.