Mae SDG Curriculum Mapping yn rhaglen newid cwricwla a gefnogir gan SOS-UK. Mae’n dod â staff a myfyrwyr o bob ysgol ynghyd i archwilio sut mae eu haddysgu a’u dysgu yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr gyfrannu at gyfiawnder hinsawdd a byd cynaliadwy.

Yn gyntaf, bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i fapio eu disgrifiadau modiwl yn erbyn nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a meini prawf cynaliadwyedd eraill. Yna, drwy weithdai, rhwydweithio a chymorth arall gan SOS-UK drwy gydol y flwyddyn academaidd, mae’r rhaglen yn helpu staff a myfyrwyr i ddefnyddio’r data i gydweithio ar newidiadau i addysgu a dysgu, gan baratoi myfyrwyr i greu byd gwell.

Bydd myfyrwyr yn mapio eu modiwlau yn erbyn meini prawf cynaliadwyedd rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr, a bydd angen ymrwymo tua 5 i 8 awr.

Mae eich cyfranogiad yn y rhaglen yn cynnwys ymrwymiad i wella dysgu ar gyfer cynaliadwyedd drwy gydol y flwyddyn.

I gymryd rhan, llenwch y ffurflen hon erbyn 9 Hydref.Byddwn yn gwahodd ymgeiswyr i’n sesiwn hyfforddi ar y safle ar 13 Tachwedd rhwng 12-3pm!

Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch Katie Horsburgh neu Beatrice Anomah.