2pm (bob brynhawn Mercher, gan ddechrau ar 30 Hydref). Cwrdd y tu allan i Dŷ Fulton
- Dydd Mercher 30 Hydref
- Dydd Mercher 6 Tachwedd
- Dydd Mercher 13 Tachwedd
- Dydd Mercher 20 Tachwedd
- Dydd Mercher 27 Tachwedd
Dengys ymchwil y gall sylwi ar bethau da ym myd natur wella eich lles.
Ymunwch â Llesiant@BywydCampws ar brynhawn Mercher (gan ddechrau ar 30 Hydref) am daith gerdded fer a rhoi cynnig ar yr ymarfer lles “3 pheth da”.
Mae bod yng nghanol byd natur yn lleihau dicter, ofn a straen ac yn cynyddu teimladau pleserus. Mae bod yng nghanol byd natur yn gwneud i chi deimlo’n well yn emosiynol, mae’n cyfrannu at eich llesiant corfforol, yn lleihau pwysau gwaed, cyfradd curiad y galon, tensiwn yn y cyhyrau a chynhyrchu’r hormonau straen.
Dyma’r gweithgaredd perffaith i wella eich lles yn ystod cyfnodau prysur o astudio a gwaith cwrs.
Cynhelir y digwyddiad yn yr awyr agored, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad ac esgidiau sy’n addas ar gyfer y tywydd.