Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio yn y sector gwirfoddol?

Os ydych chi’n frwdfrydig am wneud gwahaniaeth ac yn barod i archwilio gyrfaoedd gwobrwyol sy’n cael effaith ar fywydau, dyma’r digwyddiad i chi! Ymunwch â ni am sesiwn a fydd yn eich ysbrydoli, ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig, ddydd Mercher, 14 Tachwedd, rhwng 10am a 12pm!

Mae’r digwyddiad hwn, sy’n cael ei gynnal gan NSPCC Cymru, Gwasanaeth Gwirfoddoli Myfyrwyr Discovery ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe, yn borth i chi ddarganfod y cyfleoedd amrywiol ac ystyrlon yn y sector gwirfoddol. Gallwch archwilio llwybrau gyrfa cyffrous mewn meysydd fel cyllid, adnoddau dynol, ymgyrchoedd, marchnata, rheoli prosiectau, cydlynu gwirfoddolwyr, a gwaith uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaethau. Byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol mewn gwahanol rolau, gan gynnwys graddedigion diweddar o Brifysgol Abertawe, ac yn dysgu sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth bob dydd.

Pam dod?

  • Bydd cyfle i glywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr y diwydiant a graddedigion diweddar am y rolau gwobrwyol yn y maes hwn.
  • Gallwch ddarganfod yr ystod o rolau sydd ar gael a darganfod sut i ennill profiad i weithio yn y sector gwirfoddol.
  • Bydd modd i chi rwydweithio â myfyrwyr a sefydliadau o’r un meddylfryd â chi sy’n awyddus i weithio gyda myfyrwyr.

Gwnewch wahaniaeth go iawn â’ch gyrfa—ymunwch â ni a chymryd y cam cyntaf tuag at rôl wobrwyol yn y sector gwirfoddol!