Gan ddechrau ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, gallwch deithio am ddim ar fysiau ledled Abertawe ar y penwythnosau wrth gyfri’n ôl at y Nadolig.
Yn ogystal â theithiau am ddim ar benwythnosau, bydd gwasanaethau bysiau hefyd am ddim ddydd Llun 23 Rhagfyr ac ar Noswyl Nadolig, ac yna o 27 Rhagfyr tan 7pm ar Nos Galan.
Mae’r cynnig hwn ar gyfer teithiau sy’n dechrau ac yn gorffen o fewn ardal Cyngor Abertawe. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7pm.