Os oes gennych awgrym am sut y gallwn wneud gwelliannau yma ym Mhrifysgol Abertawe, rhannwch eich meddyliau ar MyUniVoice!
Mae’n ofod rhyngweithiol ar-lein lle gall myfyrwyr, Cynrychiolwyr ac aelodau staff o’r holl gyfadrannau drafod syniadau, codi a datrys problemau, rhoi canmoliaeth, gofyn cwestiynau, a rhannu adborth adeiladol ar y cyd!
Mae adborth a godwyd ar MyUniVoice wedi ein helpu i wneud llawer o newidiadau cadarnhaol eisoes, gan gynnwys:
- Gwasanaethau bws gwell
- Oriau agor estynedig ar gyfer ein labordai cyfrifiaduron a llyfrgelloedd
- Gosod ystafell microdon newydd yn Nhŷ Fulton
- Peiriannau argraffu 3D newydd i fyfyrwyr eu defnyddio
- Man croesi gwell ar Gampws y Bae
- Gwell Wi-Fi ym mhreswylfeydd Campws y Bae
P’un a yw’ch adborth yn ymwneud â’ch cwrs penodol, neu brofiad y myfyriwr yn gyffredinol yn Abertawe, gallwch ei rannu â ni!
I ddarganfod mwy am MyUniVoice, gan gynnwys ei bolisi cynnwys a’r gwobrau y mae wedi eu hennill, ewch i’n tudalennau gwe MyUni.