Dewiswyd yr ysgolhaig chwaraeon o Brifysgol Abertawe, Nansi Kuti, i gynrychioli tîm Pêl-rwyd Plu Cymru yn nhwrnamaint y Cwpan Celtaidd eleni, gan orffen y gystadleuaeth fel Pencampwyr y Cwpan Celtaidd!! Bu Plu Cymru yn brwydro tan y rownd derfynol, lle cawson nhw fuddugoliaeth anhygoel yn erbyn Ysgall yr Alban 59-47 i ennill y tlws!
Ar ôl dal i fyny gyda Nansi ar ôl y digwyddiad, meddai:
“Ein prif nod oedd dod â’r tlws adref fel enillwyr cyntaf y Cwpan Celtaidd! Roedd hi’n wych teimlo bod misoedd o wersylloedd a hyfforddiant wedi dwyn ffrwyth. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n cymryd rhan ochr yn ochr â gwaith amser llawn neu addysg.”
Edrychwn ymlaen at ddilyn Nansi ar ei thaith pêl-rwyd o lwyddiant. I ddysgu mwy am ein rhaglen ysgoloriaeth yma.