I’ch helpu i gyrraedd eich arholiadau am 9.30am neu 14.00pm mewn da bryd, bydd First Bus yn cynnig bysus ychwanegol ar gyfer gwasanaethau 90, 91 a 92 o ddydd Llun 6 Ionawr tan ddydd Gwener 24 Ionawr. Gallwch weld yr amserlenni yma.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r rhwydwaith ehangach i fyfyrwyr i gyrraedd eich arholiadau:

  • Gwasanaethau 2A, 3A, 4, 4A ac 14 rhwng Campws Parc Singleton a Chanol y Ddinas 
  • Gwasanaethau 38, X1, X5 a X7 rhwng Campws y Bae a Chanol y Ddinas.
  • Gwasanaethau 20, 20A a 21 rhwng Croes Sgeti a Chanol y Ddinas.

Gallwch weld amserlenni’r rhwydwaith ehangach yma.

Bydd bysus gwennol Parcio a Theithio (U1) am ddim Prifysgol Abertawe yn parhau i redeg bob 15 munud (yn ystod yr oriau brig) o Barcio a Theithio Ffordd Fabian i Gampws y Bae  i’r rhai hynny sy’n gyrru i’r Bae.

Ein hawgrymiadau gorau ar gyfer teithio i’r arholiadau

  • Cynlluniwch ymlaen llaw a dylech wybod ble mae lleoliad eich arholiad. Yn hytrach na dal y bws olaf cyn eich arholiad, rhowch ddigon o amser i chi eich hun! Mae nifer o wasanaethau cynharach a fydd yn eich tywys i’ch arholiadau ar amser, a chyda’n mannau i fyfyrwyr a mannau arlwyo ar agor o 08.00am, gallwch gael coffi a brecwast o Harbwr neu Guddfan Gymdeithasol Abertawe.
  • Defnyddiwch gynllunydd teithiau First Bus neu’r Ap i drefnu eich taith.
  • Dewch yn gyfarwydd â mapiau rhwydwaith First Cymru ar gyfer yr holl wasanaethau cysylltu yn Abertawe a’r ardal leol os ydych yn teithio o ymhellach i ffwrdd.
  • Defnyddiwch y system Tap on Tap Off os nad oes gennych docyn bws. Y pris yw £4 ar gyfer teithio drwy’r dydd ar draws y rhwydwaith i fyfyrwyr.
  • Os oes gennych ymholiadau neu bryderon am ddefnyddio’r bws i deithio i’ch arholiadau, e-bostiwch ni yn: travel@abertawe.ac.uk.

Beth am gerdded neu feicio i’ch arholiad?

Os yw’n ymarferol, beth am gerdded neu feicio i leoliad eich arholiad ac elwa o ychydig o ymarfer corff ysgafn cyn yr arholiad i leihau straen a’ch helpu i ganolbwyntio?

  • Os oes gennych feic eisoes, mae digon o gyfleusterau ym mhob lleoliad arholiadau i chi gloi’r beic yn ddiogel. Os nad oes gennych oleuadau ar gyfer y gaeaf, clo D neu os nad yw eich beic wedi’i farcio a’i gofrestru, ewch i un o’r derbynfeydd gyda’ch beic i gael goleuadau a chlo am ddim. Byddwn yn marcio beiciau eto ym mis Rhagfyr, manylion llawn yma.
  • Gallech chi ddefnyddio un o’n Beiciau Prifysgol Abertawe sydd ger lleoliadau eich arholiadau. Mae hybiau ein beiciau ar Gampws Singleton a’r Bay, Parcio a Theithio Ffordd Fabian, Y Mwmbwls, Neuadd y Ddinas Abertawe a Gorsaf Fysiau Ganolog Abertawe.