Am resymau diogelwch oherwydd yr amodau tywydd eithafol a’r gwyntoedd cryfion a ragwelir gyda Storm Darragh, mae’r penderfyniad wedi’i wneud i gau Campws Singleton, Campws y Bae, SBSP a Pharc Dewi Sant, a’r holl wasanaethau, o 10pm heno (6ed Rhagfyr) tan ddydd Sul (8fed Rhagfyr) am 9am.

Rydym yn cynghori’n gryf bod holl fyfyrwyr a staff yn aros dan do yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd ac yn osgoi teithio diangen.

Arlwyo: Bydd yr holl gyfleusterau arlwyo ar gampws, ynghyd â gwasanaethau eraill, ar gau yn ystod y cyfnod hwn. Dylai myfyrwyr sy’n byw ar y campws sicrhau eu bod yn cael cyflenwadau hanfodol ymlaen llaw.

Teithio: Mae First Bus wedi cynghori y gall fod aflonyddwch i’r gwasanaethau ddydd Sadwrn, 7fed Rhagfyr. Am ddiweddariadau, gwiriwch eu tudalen aflonyddwch neu’r feed First X.

Rhybuddion tywydd: Sylwch ar y rhybuddion tywydd canlynol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Storm Darragh:

  • Rhybudd Melyn Gwynt – 1500 heddiw hyd at 0600 Sul 8fed
  • Rhybudd Melyn Glaw – 1500 heddiw hyd at 1200 yfory
  • Rhybudd Oren Gwynt – 0100 yfory hyd at 2100 yfory
  • Rhybudd Coch Gwynt – 0300 yfory hyd at 1100 yfory
  • Rhybudd Oren Glaw – 0300 yfory hyd at 1800 yfory

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhybuddion tywydd a sut i gadw’n ddiogel ar dudalennau gwe’r Swyddfa Dywydd.

Dilynwch y cyngor i gadw’n ddiogel mewn gwyntoedd cryfion yma.
Dilynwch y cyngor i gadw’n ddiogel mewn storm yma.

Os oes angen i chi gysylltu â’n Tîm Diogelwch ac Ymateb i’r Campws:
Ar gyfer argyfyngau, ffoniwch: 01792 513 333 o ffôn symudol neu 333 o unrhyw linell dir y Brifysgol.
Ar gyfer materion nad ydynt yn faterion brys: 01792 604 271 o ffôn symudol neu 4271 o unrhyw linell dir y Brifysgol.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir; fodd bynnag, eich diogelwch yw ein blaenoriaeth gyntaf. Cymerwch ofal wrth fynd allan neu deithio ac osgoi lleoliadau arfordirol.