Mae Dr Nicole Esteban o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod am ei gwaith gwyddonol a chadwraeth rhagorol yn ngwobrau Cymdeithas Sŵoleg Llundain (ZSL) eleni.
Cyhoeddwyd mai Dr Esteban yw enillydd Gwobr Marsh ZSL am Gadwraeth Morol a Dŵr Croyw yn Nigwyddiad Dathlu Gwobrau ZSL a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr. Dyfernir Gwobr Marsh am Gadwraeth Morol a Dŵr Croyw i gydnabod ymchwil sylfaenol sydd wedi cael effaith sylweddol ar gadwraeth morol a dŵr croyw.
Dr Esteban yw pennaeth y Labordy Cadwraeth ac Ecoleg Forol ac mae’n gweithio ar y rhyngwyneb rhwng gwyddoniaeth, rheolaeth a chadwraeth. Mae ganddi gefndir mewn rheoli ardaloedd morol gwarchodedig sy’n golygu ei bod yn deall cadwraeth forol o safbwynt damcaniaethol ac ymarferol. O ganlyniad i waith Dr Esteban yn monitro symudiadau môr-grwbanod gwyrdd a gwalchbig yn Archipelago Chagos, darganfuwyd dolydd morwellt a riffiau mesoffotig yn nyfroedd dwfn Cefnfor yr India. Mae hi wedi gweithio i integreiddio hyn mewn polisïau a defnyddiwyd ei gwaith gan lywodraethau Prydain a Mauritius i lywio’r gwaith o ddynodi ardaloedd cadwraeth allweddol, a chan lywodraeth y Seychelles i lywio cynllunio cadwraeth forol.
Mae Dr Esteban hefyd yn arloesi ym maes defnyddio technoleg flaengar, gan ddefnyddio camerâu o bell sy’n recordio ymddygiad nythu môr-grwbanod am fisoedd lawer. Bydd y dechnoleg hon yn trawsnewid ansawdd asesiadau statws môr-grwbanod sy’n nythu mewn ardaloedd anghysbell ac anhygyrch.
Mae Dr Esteban wedi arwain ymdrechion i asesu effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ymddygiad nythu môr-grwbanod, gan gynnwys benyweiddio patrymau geni epil a chynnydd yn lefel y môr sy’n arwain at golli traethau nythu. Mae ei gwaith i ddeall effaith newid yn yr hinsawdd ar fôr-grwbanod wedi arwain at nodi camau gweithredu ymarferol, a gyflwynwyd ganddi yng Nghynhadledd y Partïon UNFCCC yn Glasgow yn 2021.