Yn 2016, lansiodd yr Institute of Health Improvement (IHI) yn yr UD ymgyrch ‘Breaking the Rules for Better Care’ (a elwir hefyd yn Rheolau Gwirion), dan arweiniad yr Athro Don Berwick (Comisiynydd Bevan). Nod y gwaith hwn oedd canfod ‘rheolau di-fudd’ neu ‘rwystrau gweinyddol’ sy’n ychwanegu ychydig iawn neu ddim gwerth i ofal, yn rhwystro gwaith clinigwyr, yn rhwystro cleifion a’u teuluoedd, ac yn gwastraffu amser ac adnoddau eraill ar draws lleoliadau gofal iechyd. Ers hynny, oherwydd ei lwyddiant mawr a’i effaith, mae’r fenter ‘Rheolau Gwirion’ wedi parhau i ehangu ledled y byd ac mae’n cael ei hystyried yn offeryn allweddol yn rhyngwladol i wella arferion a chanlyniadau i gleifion a staff, yn ogystal â darparu dull o nodi cyfleoedd i arbed costau a lleihau gwastraff ar draws y system.
Felly, mae Comisiwn Bevan a Llais (llais y dinesydd), mewn partneriaeth â’r Institute for Healthcare Improvement, yn rhannu arolwg byr i gasglu barn y rhai sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn gofal (y cyhoedd). Mae’r rhain yn rheolau y mae pobl yn teimlo eu bod yn rhwystro darparu gofal da, diogel ac effeithlon, ac y gellid eu newid i sbarduno gwelliant eang ac arbedion cost posibl. Am ragor o wybodaeth ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho yn Gymraeg a Saesneg: Rheolau Gwirion – Comisiwn Bevan
Ar ôl cyfnod yr arolwg ar ddiwedd mis Ionawr, mae Comisiwn Bevan yn bwriadu rhannu’r gwersi a ddysgwyd i helpu i nodi’r effaith y gallai newidiadau posibl ei chael, gan weithio ochr yn ochr ag arweinwyr sefydliadol ledled Cymru i ddod o hyd i atebion i alluogi gofal gwell ac yn fwy effeithlon.
Cwblhewch yr arolwg byr a’i rannu’n eang os gwelwch yn dda! CWBLHEWCH YR AROLWG