Rydym yn cynnig dyfarniad nad oes angen ei ad-dalu i fyfyrwyr cymwys i gynorthwyo tuag at gostau teithio.
Bydd angen i fyfyrwyr newydd a’r rhai sy’n parhau gael eu hasesu i gadarnhau eu bod yn wynebu caledi ariannol drwy ein proses cyflwyno cais i fod yn gymwys ar gyfer y Taliad Cymorth Teithio.
Mae’r Taliad Cymorth Teithio yn cynnig hyd at £400.00 fesul blwyddyn academaidd i gyfrannu tuag at un o’r isod:
- Tocyn bws blynyddol/tymhorol
- Costau petrol (*meini prawf cymhwysedd yn berthnasol)
Mae nifer cyfyngedig o Daliadau Cymorth Teithio ar gael ar gyfer 24/25 felly dyfernir taliadau ar sail y cyntaf i’r felin.
Cymhwysedd:
I fod yn gymwys i gyflwyno cais am y Taliad Cymorth Teithio, mae’n rhaid i ti fodloni’r meini prawf isod:
- Rwyt ti’n fyfyriwr newydd / myfyriwr cofrestredig ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol
- Nid wyt ti wedi derbyn costau am deithio drwy gais blaenorol i’r Gronfa Galedi
- Rwyt ti ar gwrs amser llawn / rhan-amser ac yn derbyn yr holl gyllid sydd ar gael i ti
- Rwyt ti’n wynebu caledi ariannol ac yn fodlon ymgymryd ag asesiad ariannol o’th amgylchiadau a darparu tystiolaeth ategol
- Os wyt ti’n cyflwyno cais am gostau petrol, mae’n rhaid dy fod yn gofrestredig ar gwrs sy’n gofyn i ti ddefnyddio car (e.e. graddau sy’n gofyn i ti deithio i leoliad gwaith, megis Nyrsio). Gall disgresiwn gael ei ddefnyddio os oes angen car ar fyfyriwr yn sgîl anabledd neu gyfrifoldeb gofalu, a chadarnhawyd hynny gan y tîm Cyfranogiad@BywydCampws.
Tystiolaeth Angenrheidiol
Os wyt ti’n teimlo dy fod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a hoffet ti gyflwyno cais, gelli di ddod o hyd i’r ddolen i’r dudalen we i wneud cais isod:
Dewisa’r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr, yna clicia’r opsiwn ‘Taliad Cymorth Teithio’ o’r gwymplen.
Bydd angen i ti ddarparu’r isod i gefnogi dy gais:
- Llythyr hawl i Gyllid Myfyrwyr sy’n dangos dy fod yn derbyn cyllid llawn.
- Cyfriflenni banc ar gyfer dy HOLL gyfrifon banc/cymdeithas adeiladu/cynilion/ISA.