Sylwer na fydd y fewnrwyd nac E:vision ar gael o 18:00 Dydd Gwener 10 Ionawr – 08:00 Dydd Llun 13eg Ionawr wrth i’r gwasanaeth cofnodion myfyrwyr gael ei uwchraddio. Mae hyn yn golygu hefyd na fyddwch yn gallu gweld eich cofnod myfyriwr na gofyn am newidiadau iddo, gwneud cais am grantiau caledi, gweld eich statws ariannol yn y Brifysgol na gwneud taliadau ar-lein am ffioedd neu lety.
Ni fydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno Amgylchiadau Esgusodol trwy E:vision yn ystod y cyfnod lle fydd y system i lawr. Os dymunwch gyflwyno EC yn ystod y cyfnod hwn, peidiwch â phoeni – cyflwynwch ef cyn gynted ag y bydd y system yn ailagor.
Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch ITServiceDesk@swansea.ac.uk neu ffoniwch 01792 604000.
Mae Gwasanaethau TG yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.
IT Services apologises for any inconvenience caused.