Wyt ti’n egin athletwr sydd â breuddwydion mawr, ar y cae ac oddi arno? Mae ein Rhaglen Ysgoloriaethau Chwaraeon ar gyfer myfyrwyr chwaraeon uchel eu perfformiad sydd am ragori yn eu gyrfaoedd athletaidd tra’n cyflawni llwyddiant academaidd.
Mae ceisiadau ar agor tan 31 Mawrth, felly paid â cholli’r cyfle i ddod yn rhan o’n teulu ysgolheigaidd deinamig a chael mynediad at y cymorth mae ei angen arnoch i gyrraedd dy botensial llawn.
Pam ymgeisio?
Fel Ysgolhaig Chwaraeon, byddi di’n mwynhau amrywiaeth o fuddion unigryw, gan gynnwys:
- Mynediad am ddim at gampfeydd a phwll nofio’r Brifysgol
- Parcio am ddim ar safleoedd Campws Singleton a Champws y Bae
- Hyfforddiant cryfder a chyflyru unigol wedi’i deilwra i’th nodau
- Dulliau personol o wella ar ôl anafiadau chwaraeon
- Cymorth ffordd o fyw proffesiynol i gefnogi perfformiad
- Mynediad at offer arloesol i ddadansoddi perfformiad
- Arweiniad maethol arbenigol
- Profion ffitrwydd cynhwysfawr
- Hyblygrwydd a chymorth academaidd drwy’r Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS)
- Gweithdai sy’n canolbwyntio ar gydbwyso gyrfa ddeuol, gwella perfformiad, a chynllunio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol
- Cymorth ariannol gwerth hyd at £2,000
Dyma dy gyfle i fynd â’th yrfa chwaraeon i lefel uwch wrth dderbyn y cymorth academaidd y mae ei angen er mwyn ffynnu.
Wyt ti'n barod i gymryd y cam nesaf?
Ymuna â chymuned sy’n credu yn dy lwyddiant. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 31 Mawrth – paid â cholli’r cyfle!