Dechreua 2025 drwy ymuno â ni yn y Ffair Croeso’n Ôl ddydd Mercher 22 Ionawr! P’un a wyt ti’n newydd i Brifysgol Abertawe, wedi colli Ffair y Glas, neu’n chwilfrydig, dyma dy gyfle i archwilio popeth sydd gennym i’w gynnig o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Dyma beth gelli di edrych ymlaen ato:

  • Archwilio Clybiau Chwaraeon
  • Darganfod sesiynau Bod yn ACTIF
  • Dysgu am Gynghreiriau Cymdeithasol
  • Gwybodaeth am Gyfleoedd Ysgoloriaeth

Dere draw i gwrdd â’r timau a sgwrsio â ni – dyw hi byth yn rhy hwyr i gymryd rhan mewn chwaraeon a dod yn rhan o’n cymuned fywiog!

Ac nid dyna’r cyfan…

Cefnoga dîm 1af Dynion Abertawe!

Gyda’r nos, bydd y Fyddin Werdd a Gwyn yn bloeddio wrth i’n tîm gystadlu yn erbyn Prifysgol Hartpury mewn gêm Rygbi Uwch BUCS. Rhaid i ni lenwi’r stondinau a dangos ein cefnogaeth i’r hyn a fydd yn gêm epig!

Manylion y digwyddiad:

Dyddiad: Dydd Mercher 22 Ionawr
Lleoliad: Y Twyni, Campws y Bae
Amser: 10am – 4pm
Cost: AM DDIM (ond mae angen cofrestru am docyn!)

Paid â cholli’r cyfle – fe welwn ni ti yno!