Yn galw ar yr holl fyfyrwyr rhyngwladol, mae eich Cynhadledd Myfyrwyr Rhyngwladol 2025 wedi cyrraedd!
Os wyt ti’n fyfyriwr rhyngwladol sy’n awyddus i gysylltu, tyfu a meithrin y gallu i ragori yn y Brifysgol a’r tu hwnt, dyma dy gyfle i gofrestru ar gyfer Cynhadledd Myfyrwyr Rhyngwladol 2025.
Ymuna â’th gyd-fyfyrwyr sydd o’r un meddylfryd â thi drwy gadw dy le nawr!
Campws Parc Singleton (Faraday K) – Dydd Mercher 29 Ionawr 2025 (13:00 – 16:00).
Campws y Bae (Y Ffowndri Gyfrifiadol 003) – Dydd Mercher 5 Chwefror 2025 (13:00 – 17:00).
Cyfoethoga dy brofiad yn y Brifysgol a gwella dy ddatblygiad personol gyda’n hamserlen o gynadleddau diddorol:
- Prif siaradwyr sy’n llawn ysbrydoliaeth.
- Trafodaeth banel, ‘Awgrymiadau ar gyfer llwyddo mewn marchnad swyddi gystadleuol’.
- Gweithdai ar lwyddiant academaidd, dod o hyd i swyddi, interniaethau a lansio dy fusnes dy hun.
- Digwyddiad arddangos diwylliannol, cyfleoedd i gwrdd â chymdeithasau a bod yn rhan o deulu byd-eang Abertawe.
I gael rhagor o wybodaeth am Gynhadledd Myfyrwyr Rhyngwladol 2025, cysylltwch âr Academi Cynwysoldeb Abertawe.
Edrychwn ymlaen at dy groesawu di.
Diolch, 谢谢, Gracias, धन्यवाद, Na gode, شكرًا, Merci, Thank you… gallen ni ymhelaethu.