Gan adeiladu ar lwyddiant digwyddiadau blaenorol, mae Wythnos Byddwch yn Wyrdd yn dychwelyd ddydd Llun 3 Chwefror am wythnos arall o ddigwyddiadau a gweithgareddau sydd â’r nod o’n haddysgu a’n hysbrydoli ni i wneud newidiadau bach er mwyn cael effaith gadarnhaol ar ein planed.
Ffair Wythnos Byddwch yn Wyrdd
Y prif ddigwyddiad fydd y Ffair Gynaliadwyedd a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin ddydd Mawrth 4 Chwefror rhwng 10am a 4pm.
Bydd y digwyddiad yn croesawu dros 30 o stondinau cynaliadwy, mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb! Byddwch yn dod o hyd i nwyddau lleol ac ecogyfeillgar ar werth, cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ymarferol gwyrdd (gan gynnwys compostio ac uwchgylchu), darganfod mwy o wybodaeth am yr hyn y mae ein cymdeithasau i fyfyrwyr yn ei wneud, a dysgu am ymchwil gyffrous, gan gynnwys efelychiadau hinsawdd realiti rhithwir yn fyw ar y safle! Bydd cerddoriaeth fyw a gosodweithiau celf yn ychwanegu at yr awyrgylch, gan wneud y digwyddiad hwn yn un na fyddwch eisiau ei golli!
Digwyddiadau eraill Wythnos Byddwch yn Wyrdd ar y Campws
Ymunwch â ni am raglen sy’n llawn gweithgareddau drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys:
- Gweithdy Creu Gwely Planhigion – Dydd Llun 3 Chwefror
- Gweithdy Gwehyddu Helyg – Dydd Mawrth 4 Chwefror
- Adeiladu Gwestai Pryfed – Dydd Mawrth 4 Chwefror
- Crefftau Cynaliadwy – Dydd Mercher 5 Chwefror
- Gweithdy Zombie Plastics – Dydd Iau 6 Chwefror
- Dyfeisio ar gyfer y blaned – Dydd Gwener 7 Chwefror
- Arddangosfa Ffotograffiaeth Natur a Bywyd Gwyllt – Dydd Sadwrn 8 Chwefror
Bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn ymuno â’r dathliad, gan gynnig ffilmiau sydd wedi’u hysbrydoli gan yr amgylchedd, a sgwrs arbennig gan Jackie Morris a Jay Griffiths gyda ‘The Art of Connection’. Cliciwch yma am ragor o fanylion.
Peidiwch â cholli’r cyfle arbennig hwn i gymryd rhan mewn mentrau cynaliadwy, cysylltu ag unigolion o’r un meddylfryd, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymuned a thu hwnt.