Y tymor hwn, bydd y gweithdai Sgiliau Astudio a gynhelir gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cael eu trefnu’n wythnosau thema, gan ganolbwyntio ar feysydd sgiliau penodol. Golyga hyn y bydd y rhan fwyaf o weithdai’n cael eu cynnal unwaith y tymor yn unig.
Y pedair wythnos gyntaf ar yr amserlen yw:
Wythnos Ailosod 3-7 Chwefror
Am wneud y gorau yn dy astudiaethau? Ymuna mewn wythnos o weithdai, a dysga sut i ddatgloi di botensial.
Wythnos Ysgrifennu 10-15 Chwefror
Dewch i’r gweithdai hyn i ddysgu mwy am bob agwedd o ysgrifennu academaidd. O strwythur, i iaith a naws, mae’r gefnogaeth ar gael i chi yma!
Wythnos Meddwl yn Feirniadol 17-21 Chwefror
Mae meddwl yn feirniadol yn sgil academaidd bwysig. Dewch i ddarganfod beth mae hyn yn ei olygu a sut i’w ddangos yn eich gwaith.
Wythnos Sgiliau Cyflwyno 24-28 Chwefror
O drin nerfau i gadw sylw eich cynulleidfa, bydd y gweithdai hyn yn gwella eich sgiliau siarad.
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer apwyntiadau un-i-un gydag aelod o staff a all gynnig cyngor ar eich gwaith academaidd.