Ydych chi’n adnabod cyd-fyfyriwr neu aelod o staff sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i Brifysgol Abertawe neu’r gymuned ehangach?

Mae Gwobr y Canghellor yn cydnabod myfyrwyr ac aelodau staff am eu cyfraniadau eithriadol i fywyd, enw da ac effaith gadarnhaol ar Brifysgol Abertawe, a’r thema eleni yw dulliau arloesol ar draws ein cymuned.

Ar gyfer Gwobrau 2025, rydym yn chwilio am geisiadau sy’n canolbwyntio ar ddulliau arbennig o arloesol. Boed hynny mewn ymchwil, addysgu, entrepreneuriaeth, neu ddatrys problemau creadigol, mae’r unigolion hyn yn arwain y ffordd gyda ffyrdd newydd ac arloesol o weithio yn ein Prifysgol a thu hwnt.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n haeddu’r gydnabyddiaeth hon, hoffem glywed gennych!

Mae manylion llawn am y Gwobrau ar gael ar dudalen we’r Canghellor. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw erbyn hanner nos ddydd Sul 9 Mawrth 2025. Cyhoeddir yr enillwyr ar ein gwefan prifysgol ym mis Mai a byddant hefyd yn cael eu cydnabod yn un o seremonïau graddio’r haf ym mis Gorffennaf.

Diolch am ein helpu i gydnabod y doniau a’r gweithgareddau anhygoel o fewn cymuned ein Prifysgol.