Mae cael mynediad at ofal meddygol pan fyddwch ei angen yn hanfodol i bob myfyriwr. P’un a ydych chi’n newydd i Abertawe ney wedi bod gyda ni ers tro, mae cofrestru gyda meddyg teulu lleol yn sicrhau y gallwch chi gael help yn gyflym os ydych chi’n sâl, a chael cymorth.
Mae yna lawer o opsiynau meddygfeydd meddygon teulu ar gael i fyfyrwyr Abertawe ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r canlynol:
- Canolfan Iechyd y Brifysgol, Abertawe
- Canolfan Feddygol SA1
- Canolfan Iechyd Glannau’r Harbwr
Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch meddyg teulu agosaf a chofrestru ar-lein trwy wefan y GIG.
Arwyddion a symptomau llid yr ymenydd a septisemia
Llid yr ymennydd
- Tymheredd uchel
- Taflu i fyny
- Cur pen difrifol
- Gwddw stiff
- Ddim yn hoffi golau llachar
- Dryswch / deliriwm
- Cysglyd eithriadol / cael anhawster cerdded
Septisemia
- Tymheredd uchel
- Taflu i fyny
- Cleisio / brech
- Anadlu’n gyflym
- Poen yn y cymalau / cyhyrau
- Dryswch / deliriwm
- Cysglyd eithriadol / cael anhawster cerdded
Os byddwch chi neu ffrind yn datblygu symptomau, ceisiwch am gyngor meddygol ar unwaith.
Cysylltwch â’ch meddyg teulu neu GIG 111 am arweiniad.
Os bydd y symptomau’n gwaethygu, ewch i’r adran argyfwng neu ffoniwch 999 am gymorth meddygol brys. Gall triniath brydlon achub bywydau.
Rhowch wybod iddynt eich bod wedi derbyn y llythyr hwn.
Galw Iechyd Cymru – 0845 46 47 (24 awr)
Meningitis Now – 0808 80 10 388 (24 awr)