Bob blwyddyn, mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn pleidleisio dros 6 Swyddog Llawn-amser and 10 Swyddog Rhan-amser i’w cynrychioli.
Mae’r 16 myfyriwr wedyn yn rhai o’r lleisiau mwyaf dylanwadol ar y campws, gan lywio profiadau myfyrwyr yn y Brifysgol ac yn brwydro dros y materion sydd o bwys i chi.
Eisiau dweud dy ddweud ar sut mae bywyd fel myfyriwr yn edrych? Gwna i dy bleidlais gyfri!
Dyma’r gwir: Mae dy bleidlais wir yn bwysig – siwr o fod llawer mwy nag wyt ti’n meddwl. Dyma pam:
- Dyma dy gyfle i ddweud dy ddweud ar y campws
- Mae’n gyfle i ti bleidleisio ar y materion sy’n bwysig i ti
- Mae’n helpu i wella bywydau myfyrwyr a mynd i’r afael â phroblemau ar y campws
- Ti sy’n penderfynu pwy sy’n cynrychioli myfyrwyr
Pryd a Sut i Bleidleisio:
- Agor: 10fed Mawrth, 09:00
- Cau: 13fed Mawrth, 13:00 (3 diwrnod a 4 awr – digon o amser, dim esgusodion!)
- Ble? Ar-lein, o unrhyw le!
Osa wyt ti’n pleidleisio o dy wely ar ôl noson drwm GWA neu’n sleifio rhwng darlithoedd – mae’n gyflym, yn hawdd, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Pam mae dy bleidlais yn bwysig:
Allan o 24,000 o fyfyrwyr a allai bleidleisio llynedd, dim ond 4,000 wnaeth bleidleisio. Mae hynny’n golygu bod gan bob pleidlais gryn dipyn o bwys – gallet ti fod y person sy’n penderfynu.
Felly, os wyt ti’n dewis enillydd yn seiliedig ar bolisiau, y TikTok mwyaf doniol, neu’r addewis ymgyrch mwyaf twp – pleidleisia.
Felly, cofwich mae pleidleisio yn agor ar y 10fed o Fawrth am 9:00 ac yn cau ar y 13ed o Fawrth am 13:00. Gallwch fwrw eich pleidlais ar-lein, ac mae pob pleidlais yn cyfrif!