Os ydych yn profi unrhyw anawsterau ariannol, byddem yn eich annog i edrych ar y gronfa galedi, sy’n gronfa nad yw’n ad-daladwy i gefnogi myfyrwyr gan y Tîm Cynghori Ariannol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a dolenni i wneud cais yma.

Dim ond un taliad y bydd myfyrwyr yn cael ei dderbyn fesul blwyddyn academaidd. Efallai y bydd disgwyl i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi defnyddio’r arian at y diben a fwriadwyd os ydynt yn gwneud cais eto yn y blynyddoedd dilynol, a rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol.

Meini Prawf Cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais am y Taliad Cefnogaeth Perthyn, rhaid i chi:

  • Fod yn fyfyriwr cyfredol sydd wedi cofrestru
  • Gael mwy na 5 wythnos yn weddill o’ch cwrs

Gallwch wneud cais ar-lein yma.

Dewiswch y Gronfa Cefnogi Myfyrwyr, yna cliciwch yr opsiwn Cefnogaeth Perthyn yn y gwymplen.

Sylwch mai dim ond un mis o ddatganiadau banc ar gyfer yr holl gyfrifon sydd gennych fydd angen i chi eu darparu.
Dim ond pan fydd yr holl dystiolaeth ofynnol wedi’i llwytho i’r ffurflen ar-lein y gall ceisiadau gael eu prosesu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ynglŷn â gwneud cais, cysylltwch â hardshipfunds@swansea.ac.uk.

**Dim ond un cais y gall pob myfyriwr ei wneud fesul blwyddyn academaidd.

Grantiau Eraill ar Gael gan Tîm Cyngor Arian

 Sylwch ein bod hefyd yn cynnig cymorth ariannol arall i fyfyrwyr cymwys, gan gynnwys:

  • Taliad Cefnogaeth Gofal Plant
  • Gwobr Mamolaeth
  • Taliad Cefnogaeth Teithio
  • Taliad Cefnogaeth Llety

Gellir dod o hyd i fanylion pellach am y rhain yma.

 Gwobr Cyfle Prifysgol Abertawe (SUOA)

Mae’r Tîm Cyngor Arian wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob un o’i arferion a’i weithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o’r ndweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, newid rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhywedd, a chyfeiriadedd rhywiol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r uchod, mae croeso i chi gysylltu â ni.