Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella eich gwasanaeth gyrfaoedd dros yr wythnosau diwethaf.

Rydym wedi dod â’n timau cyflogadwyedd canolog a rhai’r cyfadrannau ynghyd i lansio gwasanaeth newydd ar y cyd, o’r enw Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn ein helpu i ddarparu rhagor o wybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd, cyfleoedd interniaeth a lleoliadau gwaith a mynediad at offer ac adnoddau trwy integreiddio’r holl arbenigedd ac adnoddau.

Gallwch alw heibio i siarad â’n tîm. Byddwn yn y lleoedd canlynol:

  • Campws Parc Singleton – Bloc Stablau Abaty Singleton
  • Campws y Bae – Hyb Cyflogadwyedd yr Ysgol Reolaeth (Adeilad yr Atriwm)

Beth sy’n newydd?

  • Gwell Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd: rydym wedi ehangu’r ffyrdd y gallwch chi siarad ag Ymgynghorydd Gyrfaoedd. Oes gennych chi gwestiwn cyflym? Defnyddiwch ein Sgwrs Fyw ar Yrfaoedd neu dewch i sesiwn galw heibio wythnosol. Angen ychydig mwy o gymorth? Trefnwch apwyntiad un i un.
  • Bwrdd swyddi: rydym yn gwneud y mwyaf o’n hadnoddau gan ddefnyddio un bwrdd swyddi, JobTeaser. Mae galw cynyddol am fyfyrwyr a graddedigion Abertawe gan lawer o gyflogwyr, a dyma le byddwn yn rhestru cyfleoedd rydym yn ymwybodol ohonynt, a hefyd yn gweithio gyda chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a fydd hefyd yn postio cyfleoedd yma. Mae hyn hefyd yn cynnwys swyddi rhan-amser.
  • Cyfleoedd am interniaethau, lleoliadau gwaith a blwyddyn mewn diwydiant: rydym yn symleiddio ein prosesau i fyfyrwyr a chyflogwyr i gynyddu effeithlonrwydd a byddwn yn parhau i drefnu cyfleoedd cymorth yn ystod eich amser i ffwrdd o’r Brifysgol.
  • Ni yw cartref newydd lleoliadau gwaith clinigol, lleoliadau astudiaethau plentyndod cynnar a chyrsiau TAR hefyd, gan gyfuno arbenigedd ac arfer gorau.
  • Ffeiriau, Digwyddiadau a Gweithdai Gyrfaoedd: rydym yn datblygu ein calendr digwyddiadau i gynnig mwy o gyfleoedd i chi rwydweithio â chyflogwyr a datblygu sgiliau i helpu eich gyrfa ar ôl graddio. Bydd yr holl ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau a gweithdai’n cael eu rhestru ar JobTeaser.

Rydym yn parhau i gefnogi:

  • Gweithgarwch o fewn y cwricwlwm: Bydd ein tîm yn parhau i ddarparu addysgu ar draws y cwricwlwm, ac rydym yn gweithio gydag academyddion ymhob cwrs i roi i chi’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant gyrfa yn y farchnad swyddi bresennol a farchnad y dyfodol.
  • Mynediad ar alw at offer ac adnoddau gyrfaoedd: o wiriwr CV a llythyr eglurhaol, i efelychwyr cyfweliadau a chymorth canolfan asesu; mae gennym blatfformau arbenigol i’ch helpu chi ddydd a nos. Mae’r Cwrs Datblygu Gyrfa hefyd yn lle gwych i ddechrau.
  • I fyfyrwyr sy’n wynebu heriau i recriwtio, mae ein tîm Hwb Gyrfaoedd wrth law o hyd i gynnig cymorth ac arweiniad.
  • Trwy ein Rhaglen Cymorth i Raddedigion estynedig, gallwch barhau i gael mynediad at gymorth gyrfaoedd a chyflogadwyedd gydol oes.

Rydym yma i’ch cefnogi chi drwy bob cam o’ch datblygiad gyrfa. Edrychwn ymlaen at weld lle bydd eich taith yrfa yn eich tywys!

Rydym yn ailddatblygu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn rhannu’r rhain â chi’n fuan. 

Cofion gorau, 

Gyrfaoedd a chyflogadwyedd.