Mae’r gwaith cynnal a chadw system hanfodol a ddechreuodd ddoe (dydd Mawrth 1 Ebrill) ac a drefnwyd i fod ar y gweill tan 8yb yfory (dydd Iau 3 Ebrill) bellach wedi’i gwblhau.
Rydym yn monitro SITS a’r systemau isod yn agos a byddwn yn parhau i wneud hynny, maent mewn perygl am weddill heddiw ac yfory.
Mae’r systemau sydd bellach ar gael yn cynnwys:
- Cofnodion Myfyrwyr
- Pob gwasanaeth Evision gan gynnwys Amgylchiadau Esgusodol
- Gwasanaethau sy’n cael eu cyrchu trwy intranet.swansea.ac.uk
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant am unrhyw aflonyddwch y gallai hyn fod wedi’i achosi ac yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth wrth i ni weithio i wella ein gwasanaethau.
Diolch yn fawr am eich amynedd a’ch cydweithrediad.