Rydym yn llawn cyffro i gyflwyno’r Lolfa Groeso i chi, ardal newydd i fyfyrwyr lle gallwch gysylltu, cydweithio a phrofi diwylliannau gwahanol!
Bydd yr ardal newydd yn hyb i fyfyrwyr rhyngwladol a chartref, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau, digwyddiadau a chyfleoedd i ymgysylltu fel cymuned. Os hoffech gwrdd â phobl newydd, cymryd rhan mewn dathliadau diwylliannol neu ddysgu iaith newydd, gallwch wneud hyn oll yn y Lolfa Groeso.
Byddwn yn lansio’r Lolfa Groeso ar 1 Mai yn Ystafell Gemau Harbwr yn Nhŷ Fulton, Campws Parc Singleton, a byddwn hefyd yn cyflwyno digwyddiadau a gweithgareddau i’n myfyrwyr ar Gampws y Bae.
Beth i’w ddisgwyl
Digwyddiadau diwylliannol a dathliadau – dewch i brofi traddodiadau byd-eang, gwyliau a digwyddiadau â thema drwy gydol y flwyddyn.
Caffis Iaith – Dewch i ymarfer ieithoedd newydd mewn lleoliad hamddenol gyda’n Harweinwyr Iaith cyfeillgar, a fydd yn tywys sgyrsiau ac yn addysgu ymadroddion defnyddiol i chi.
Cyfleoedd cymdeithasol a rhwydweithio – dewch i ehangu eich cysylltiadau byd-eang, rhannu awgrymiadau teithio a chwrdd â myfyrwyr o’r un meddylfryd.
Ardaloedd cyfforddus – amgylchedd croesawgar i ymlacio neu gwrdd â ffrindiau.
Yn dod cyn hir!
Day(s)
:
Hour(s)
:
Minute(s)
:
Second(s)
Ymunwch â ni am yr Agoriad Swyddogol!
Dewch i fod ymhlith y cyntaf i brofi’r Lolfa Groeso yn ein digwyddiad lansio ar 1 Mai! Bydd bwyd am ddim, gweithgareddau llawn hwyl, perfformiadau diwylliannol a chipolwg ar yr hyn sydd i ddod!
Dilynwch ein sianeli MyUni i gael y newyddion diweddaraf a pharatoi i fod yn rhan o rywbeth byd-eang!