Cynnal a Chadw Rhwydwaith Di-wifr (28 Ebrill – 2 Mai 2025)

Rydym yn gwneud gwelliannau i rwydweithiau diwifr y brifysgol (eduroam a Play) fel rhan o raglen uwchraddio ehangach.

O ddydd Llun 28 Ebrill i ddydd Gwener 2 Mai 2025, byddwn yn newid y ffordd y mae dyfeisiau yn cysylltu trwy ddisodli cyfeiriadau IP cyhoeddus gyda rhai preifat.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi:

Ni fydd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn sylwi ar unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, os ydych chi’n canfod na allwch gael mynediad at weinydd neu wasanaeth penodol ar ôl y diweddariad, cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth TG am help.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi a diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i ni weithio i wella ein gwasanaethau rhwydwaith.