Wyt ti’n ystyried astudiaethau ôl-raddedig fel dy gam nesaf yn dy daith academaidd? Rwyt ti eisoes yn gyfarwydd ag Abertawe, felly pam na wnei di aros gyda ni ychydig yn hirach?
Beth fydd yn digwydd yn y digwyddiad?
Bydd cyfle i:
- Wrando ar gyflwyniad byr am Astudiaethau Ôl-raddedig gyda Phrifysgol Abertawe
- Derbyn gwybodaeth am Gyllid Myfyrwyr gan gynnwys bwrsariaethau ac ysgoloriaethau
- Dysgu am lety, ein gwarant a sut i wneud cais
- Cymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb fyw gyda Myfyrwyr Llysgennad
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r timau Cyflogadwyedd, Rhyngwladol, Ymchwil Ôl-raddedig, Gwasanaethau Myfyrwyr, a Recriwtio i ateb eich cwestiynau.
Bydden ni wrth ein boddau’n dy weld di!
