Dyma adeg y flwyddyn pan fydd y Swyddfa Dderbyn yn prosesu canlyniadau arholiadau holl ymgeiswyr Prifysgol Abertawe ac yn derbyn miloedd o alwadau ffôn hefyd gan ymgeiswyr sy’n chwilio am le drwy’r broses Clirio.
Eleni, rydym ni’n chwilio am help gan fyfyrwyr o bob rhan o’r Brifysgol sydd â diddordeb mewn staffio’r Llinell Gymorth.
- Bydd y Llinell Gymorth Clirio ar agor o ddydd Iau 14 Awst tan ddydd Gwener 22 Awst (gan gynnwys penwythnos 16-17 Awst).
- Yn ogystal, rhaid i staff ddod i 1 sesiwn hyfforddi ar 1, 4 neu 6 Awst.
Dyddiad Cau ar gyfer derbyn ceisiadau: Dydd Sul 29 Mehefin 2025
Sylwer: Bydd y cyfle hwn yn golygu gweithio ar y campws, felly ni fydd modd gweithio o bell.
Darperir mwy o wybodaeth yn agosach i’r digwyddiadau ond mae croeso i chi gysylltu gydag ymholiadau – clearinghelplinestaff@wansea.ac.uk.