Diolch yn fawr i bawb a gymerodd yr amser i gwblhau’r Arolwg Teithio eleni. Mae eich adborth yn cael ei adolygu’n ofalus ac mae eisoes yn helpu i lywio’r hyn y byddwn ni’n ei wneud nesaf.

Dyma gipolwg cyflym ar yr hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthym hyd yn hyn:

  • Mae mwy ohonoch yn beicio! Mae 18.4% ohonoch nawr yn beicio i’r campws y rhan fwyaf o’r amser, sydd wedi cynyddu o 12% y llynedd.
  • Byddech chi’n hoffi gweld mwy o deithiau beicio a arweinir i leoedd lleol diddorol.
  • Mae Cofrestru am Feic am Ddim, goleuadau a chloeon am ddim, a sioeau teithiol beicio wedi bod yn llwyddiannus – rydych chi wedi gofyn am ragor o sesiynau cynnal a chadw beiciau hefyd.
  • Mae cerdded i’r campws yn fwy poblogaidd nag erioed – mae 36% o fyfyrwyr nawr yn cerdded bob dydd!
  • Mae diddymu gostyngiad FyNgherdynTeithio oddi ar docynnau undydd i fyfyrwyr wedi gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn llai fforddiadwy i bobl dan 21 oed.
  • Mae canslo bws 91 a oedd yn rhedeg yn hwyr yn y nos, yn ogystal â gwasanaethau’n gorffen yn gynnar yn golygu bod teithio’n anoddach i lawer ohonoch.

Rydym yn eich clywed chi! Ac rydym eisoes yn cymryd camau gweithredu:

  • Bydd sesiynau cynnal a chadw beiciau yn dychwelyd o fis Medi, mewn partneriaeth â Bikeability a Chyngor Abertawe, ochr yn ochr â’r sioeau teithiol beicio, Dr Bike.
  • Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i archwilio cyfleoedd i ailgyflwyno teithiau beiciau a arweinir, er mwyn helpu mwy ohonoch i ddechrau beicio a darganfod llwybrau beicio diogel i’r campws ac o gwmpas y ddinas.
  • Rydym yn cyfarfod â First Cymru er mwyn pwyso am welliannau. Yn seiliedig ar eich adborth:
    • Maen nhw wedi cytuno i gadw’r rhan fwyaf o rifau gwasanaeth a llwybrau gwasanaeth yr un peth ar gyfer 2025/26, er mwyn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r gwasanaethau cywir.
    • Rydym wedi mynegi pryderon am gostau a theithio’n hwyr yn y nos, gan gynnwys gwasanaeth 91 a chysylltiadau ag Ysbyty Castell-Nedd Port Talbot.
    • Bydd First Cymru hefyd yn mynychu holl gyfarfodydd Grŵp Defnyddwyr Bysiau Myfyrwyr 2025/26 – cadwch lygad am ddyddiadau’r sesiynau a fydd yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn fuan.

Enillwyr ein Raffl

Llongyfarchiadau i dri enillydd ein raffl! Rydym wedi cysylltu â chi dros e-bost – mae’r gwobrau ar y ffordd.

Byddwn ni’n Parhau i Wrando

Mae hyn yn fwy nag un arolwg yn unig. Rydym yn ymrwymedig i glywed gennych drwy gydol y flwyddyn. Gallwch ddweud eich dweud ar:

  • Stondinau teithio dros dro ar y campws ac yn eich ysgol/cyfadran.
  • Sioeau teithiol a digwyddiadau teithio llesol.
  • Grwpiau Defnyddwyr Bysiau a Beiciau.
  • Sesiynau Ymgysylltu Cyfadrannau.
  • Trwy e-bost: travel@abertawe.ac.uk.
  • Neu ar Unitu.

Rydym yn addo y byddwn ni’n rhannu diweddariadau cyson ynghylch cynnydd a gwelliannau i wasanaethau ar gyfer 2025/26. Cadwch lygad ar y cylchlythyr i fyfyrwyr am ein diweddariadau, a diolch eto am gydweithio â ni!

Ystadau a Gwasanaethau Campws