Bydd y llyfrgell ar agor ac ar gael drwy gydol yr haf. Os byddwch chi’n benthyca llyfrau dros yr haf, sylwer ar y diweddariadau canlynol:
- Gallwch gyflwyno cais am lyfrau o hyd gan ddefnyddio iFind. Os yw’r llyfr eisoes ar fenthyg, gofynnir i’r benthyciwr ei ddychwelyd.
- Os bydd rhywun yn cyflwyno cais am lyfr rydych chi wedi’i fenthyca, byddwch chi’n cael e-bost adalw. Rhaid dychwelyd llyfrau sy’n cael eu hadalw erbyn y dyddiad dyledus newydd.
- Rhaid dychwelyd llyfrau sy’n cael eu hadalw o fewn 15 niwrnod yn ystod yr haf.
- Bydd adnewyddu awtomatig yn parhau, ond gellir adalw llyfrau o hyd – felly darllenwch eich e-byst yn rheolaidd.
- Os nad oes angen llyfr arnoch chi mwyach, dylech ei ddychwelyd cyn gadael am y gwyliau fel na fydd angen ei adalw.
- Os bydd problemau neu ymholiadau gennych, e-bostiwch myunilibrary@abertawe.ac.uk
Gobeithiwn y cewch chi haf gwych ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn y llyfrgell!