Hoffem eich hysbysu ein bod yn gwneud gwelliannau i’r hysbysiadau e-bost sy’n wynebu cwsmeriaid ac yn cael eu hanfon o ServiceNow. Bydd y newid yn cael ei weithredu ddydd Iau 10 Gorffennaf.
Mewn ymateb i adborth ynghylch cynnwys ac ymddangosiad yr hysbysiadau hyn, rydym wedi diweddaru’r testun a’r naws gyffredinol. Mae cynnwys y neges bellach wedi’i gyflwyno o fewn templed safonol sy’n cynnwys logo a lliwiau Prifysgol Abertawe, gan sicrhau profiad mwy cyson a phroffesiynol.
Enghraifft:
Rydym yn gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn gwella eglurder ac apêl weledol ein cyfathrebiadau. Fel bob amser, rydym yn croesawu eich adborth.
Gwasanaethau Digidol.