Diweddariad Teithio a Thrafnidiaeth ar Ddechrau’r Tymor – gan gynnwys gwelliannau i’r gwasanaethau bws, newyddion am ddisgowntiau mawr, mwy o gyfleoedd beicio a ffyrdd o leisio eich barn.

Yn ystod misoedd yr haf, mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed gyda darparwyr trafnidiaeth er mwyn helpu i wella sut rydych chi’n teithio i’r campws ac oddi yno, ac o amgylch y ddinas. 

Dyma’r hyn sy’n newydd eleni:

  • Gwasanaeth 91 – gwasanaethau mwy rheolaidd ar adegau prysur.
  • Gwasanaeth nos N91 – bydd y gwasanaeth hwn nawr yn rhedeg tan hanner nos (7pm yn flaenorol – defnyddiwch y gwasanaeth neu fe fyddwn yn ei golli!).
  • Gwasanaeth 90 – llwybrau cynt rhwng canol y ddinas a Champws y Bae.
  • Gwasanaeth 92 – gwasanaethau mwy rheolaidd rhwng 6pm a 7pm, sef yr adegau prysur pan fo’r gwasanaethau nos yn dechrau.
  • Gwasanaeth nos N92 – yn rhedeg tan hanner nos nos Lun a nos Fawrth, a than 3.30am ddydd Gwener hyd at ddydd Sadwrn.
  • Gwelliannau i wasanaeth X1 – mae’r gwasanaeth hwn nawr yn galw ar Gampws Singleton (drwy ysbyty Singleton), gyda bysiau deulawr yn cysylltu Gorsaf Fysiau’r Cwadrant, Campws y Bae ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth campws i gampws bob awr y tu allan i dymhorau’r Brifysgol.
  • Hybiau Beiciau newydd Prifysgol Abertawe yn True a Knab Rock yn y Mwmbwls i gefnogi eich teithiau actif. 
  • Teithiau beicio cymdeithasol yn dod yn fuan…

Cyrchwch amserlenni rhwydwaith UniBus First Bus, gwybodaeth am brisiau a lawrlwythwch ap First Bus ar Wefan First Bus.

Rydym yn eich clywed chi!

Mae’r gwelliannau hyn wedi cael eu gwneud yn seiliedig ar eich adborth – diolch i bawb a rannodd eu profiadau teithio a thrafnidiaeth y llynedd! Rydym yn awyddus i glywed gennych chi y tymor hwn, a byddwn yn lansio Arolwg Teithio’r Hydref yn fuan, a fydd yn rhoi cyfle arall i chi rannu eich profiadau a dylanwadu ar welliannau pellach. Mae hefyd ddigon o ffyrdd eraill y gallwch chi sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed:

  • Stondinau teithio dros dro a sioeau teithiol ar y campws
  • Grwpiau Defnyddwyr Bysiau a Beiciau
  • Drwy e-bost: travel@abertawe.ac.uk
  • Drwy Unitu

Gostyngiadau mawr ar gyfer unigolion rhwng 16 a 21 oed

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cynllun peilot er mwyn gwneud teithio ar fysiau hyd yn oed yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. O 1 Medi, gallwch gael gostyngiadau mawr gyda FyNgherdynTeithio:

  • Tocyn unffordd: £1
  • Tocyn diwrnod: £3 (teithio diderfyn a chaiff ei dderbyn gan yr holl ddarparwyr sy’n rhan o’r cynllun)
  • 1/3 o ostyngiad: Tocynnau wythnosol, misol, tymhorol a blynyddol (ar gael nawr)

Bydd angen i chi ddangos FyNgherdynTeithio dilys er mwyn elwa o’r prisiau hyn. Cyflwynwch gais nawr yn https://mytravelpass.tfw.wales/cy. Os oes gennych gerdyn eisoes, does dim angen cyflwyno cais eto. Gall y rhai hynny nad ydynt yn gymwys am gerdyn barhau i ddefnyddio’r system tapio i mewn ac allani – £2 am docyn unffordd a bydd cap o £4 ar docyn diwrnod ar yr holl wasanaethau yng nghanol y ddinas a gwasanaethau campws i gampws.

Rhaid prynu’r tocynnau am bris gostyngedig gyda FyNgherdynTeithio ar y bws neu ar yr ap – nid yw’r prisiau gostyngedig ar gael ar y system tapio i mewn ac allan  .

Gyrru a Pharcio

Rydym yn annog teithio actif a chynaliadwy. Cofiwch fod lleoedd parcio ar y campws ac o amgylch y ddinas yn gyfyngedig! Os oes rhaid i chi yrru, mae lleoedd parcio ar gael yn:

  • Safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian ar gyfer Campws y Bae
  • Cae Hamdden y Rec ar gyfer Campws Singleton
  • Mae nifer cyfyngedig o hawlenni ar gael i fyfyrwyr cymwys, gan gynnwys hawlenni dros nos. 
  • Byddwch yn ymwybodol o’n cymdogion, parciwch yn ystyrlon mewn lleoedd parcio dynodedig a cheisiwch osgoi parcio mewn ardaloedd preswyl, ar diroedd yr ysbyty neu ar safleoedd busnesau lleol.

Mae popeth mae angen i chi ei wybod am deithio i’r campws ac oddi yno ac o amgylch y ddinas, gan gynnwys canllawiau defnyddiol ynghylch pa wasanaethau bydd eu hangen arnoch, ar gael ar-lein yn https://www.swansea.ac.uk/cy/teithio. Bydd ein Swyddog Teithio Cynaliadwy ar y campws yn ystod y cyfnod cyrraedd, yr wythnos sefydlu ac ar ddechrau’r flwyddyn academaidd er mwyn ateb unrhyw gwestiynau am deithio a thrafnidiaeth sydd gennych.

Ystadau a Gwasanaethau Campws