Yn sgil treial llwyddiannus mis Rhagfyr diwethaf, mae eich llyfrgelloedd yn gwneud rhai newidiadau i oriau agor a staffio Llyfrgelloedd Parc Singleton a Champws y Bae.

Fel Llyfrgell ddigidol yn gyntaf, rydym yn gwybod bod gwell gan y rhan fwyaf ohonoch chi i gael cymorth, cynnwys a gwybodaeth ar-lein. Rydym hefyd yn ddeall pryd a sut rydych chi’n defnyddio ein gwasanaethau a lleoedd mewn person. Mae’r newidiadau hyn yn seiliedig ar ddata defnydd, sy’n ein helpu ni i gyfunioni oriau agor yn agosach at sut y rydych chi’n defnyddio’r llyfrgelloedd.

Felly, mi fydd yna oriau dros dro ar gyfer mis Medi (1af Medi – 28ain Medi), oriau newydd o fis Hydref ymlaen (yn cwmpasu Semester 1), ac oriau estynedig o gwmpas cyfnodau asesu.

O 1af Medi i 28ain Medi bydd Llyfrgelloedd y Parc a’r Bae ar agor:

  • Llun – Gwener, 8YB – 8YH
  • Sadwrn – Sul, 12YP – 8YH 

O fis Hydref ymlaen (yn cwmpasu Semester 1), bydd Llyfrgelloedd y Parc a’r Bae ar agor:

  • Llun – Gwener, 8YB – 12YB
  • Sadwrn – Sul, 12YP – 8YH 

Cyfnod asesu mis Ionawr*, bydd Llyfrgelloedd y Parc a’r Bae ar agor:

  • Llun – Gwener, 7YB – 2YB
  • Sadwrn – Sul, 8YB – 12YB

* Bydd yr oriau hyn yn rhedeg am y tair wythnos adeg-tymor cyn ac yn ystod cyfnod asesu mis Ionawr. Caiff gwybodaeth bellach ynghylch cyfnod asesu mis Mai ei gyfathrebu yn 2026.

Yn ystod yr holl gyfnodau hyn, caiff Desgiau Gwybodaeth y Llyfrgell eu staffio:

  • Llun – Gwener, 9YB – 5YP.

Mi fydd oriau yn ystod cyfnodau gwyliau yn amrywio yn ôl gwyliau cyhoeddus a dyddiadau cau’r Brifysgol.

Pam ydy'r oriau agor yn newid?

Rydym yn gwybod bod y llyfrgell yn lle pwysig i nifer ohonoch chi, felly rydym yn sicrhau bod unrhyw newidiadau i oriau agor yn cael eu hystyried yn ofalus. Ar ôl adolygu sut a phryd mae myfyrwyr yn defnyddio’r lle, rydym wedi gwneud rhai newidiadau i sicrhau bod y llyfrgell yn cael ei chynnal yn y ffordd gorau i gefnogi eich anghenion nawr, a trwy gydol y flwyddyn academaidd.

  • Sut mae’r lle yn cael ei ddefnyddio: Mae ein data yn dangos bod defnydd y llyfrgell gan fyfyrwyr wedi newid yn ystod blynyddoedd diweddar, gyda niferoedd llawer yn is ar y safle ar adegau penodedig o’r dydd a’r nos I sicrhau ein bod ni’n darparu’r cymorth cywir tra’n hefyd bod yn gyfrifol gydag adnoddau, rydym wedi diweddaru ein horiau agor i gyfateb yn well gyda’r amseroedd pan ddefnyddir y lle yn fwyaf. Mae hyn hefyd yn ein galluogi ni i sicrhau ein bod yn lleihau allyriadau carbon ac yn helpu’r Brifysgol i gwrdd â’i amcanion cynaliadwyedd.
  • Digidol yn gyntaf: Mae eich gwasanaethau Llyfrgell bron i gyd ar gael ar-lein, ac mae’n wych i’ch gweld chi yn gwneud y gorau ohonynt, gyda dros 819,000 o gyrchiadau e-lyfrau yn 2024. Byddwn yn parhau i ddarparu adnoddau digidol a ffisegol, ond rydym yn gwybod bod cyfleustra adnoddau ar-lein yn rhan fawr o sut rydych chi’n astudio.

Ein prif flaenoriaeth yw parhau i ganolbwyntio ein gwasanaethau, ymdrechion a’n adnoddau ar yr hyn sy’n bwysicach i chi. Cymorth dwys ar gael mewn person pan rydych chi’n ei angen, a mynediad ar-lein di-dor i dros filiwn o adnoddau.

Yn gyfochr a’ch Undeb Myfyrwyr, mi fyddwn ni’n monitro eich adborth, yn ogystal â chyfraddau defnydd yn y ddwy Lyfrgell, a bydd hyn yn helpu i arwain ein dull ar gyfer Semester 2 a blynyddoedd yn y dyfodol.

Mi fyddwn ni mewn cyswllt eto yn ystod Semester 1 gyda diweddariad pellach. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu adborth, cysylltwch â Llyfrgelloedd a Chasgliadau os gwelwch yn dda.

Gwasanaethau Addysg