Rydym yn falch o gyhoeddi agor clinig galw heibio iechyd rhywiol newydd.
Bydd yn cynnig cefnogaeth gyfrinachol, sgrinio iechyd rhywiol, cyngor atal cenhedlu, profion beichiogrwydd, cyngor PrEP/PEP a gwasanaethau iechyd rhywiol cyffredinol, i gyd yn rhad ac am ddim ac yn gwbl gyfrinachol.
Bydd y clinig yn gweithredu bob mis ar draws dau leoliad campws:
- Y Twyni: Dydd Mawrth olaf bob mis, 1:00–4:00yp
- Canolfan Gynghori UM (Tŷ Fulton): Dydd Mercher olaf bob mis, 1:00–4:00yp
Cynhelir y sesiynau cyntaf ddydd Mawrth y 30ain o Fedi (Bae) a dydd Mercher y 1af o Hydref (Singleton).
Nod y fenter hon yw gwneud gwasanaethau iechyd rhywiol yn fwy hygyrch i fyfyrwyr mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Desg Gymorth Undeb y Myfyrwyr ar hello.swansea-union.co.uk.