Mae Llyfrgell Parc Singleton ac adeilad 1937 yn cael uwchraddiadau rhwydwaith hanfodol o 8am ddydd Mawrth 30 Medi i 5pm ddydd Iau 2 Hydref 2025.
Bydd adegau o darfu ar wasanaethau Wi-Fi, mynediad i’r Rhyngrwyd a rhwydwaith y campws yn ystod y cyfnod hwn.
Os byddwch chi’n profi unrhyw darfu, ni ddylai hyn bara mwy nag ychydig funudau tra bod y tîm yn gweithio yn yr adeilad. Bydd y tîm sy’n gweinyddu’r uwchraddiadau yn eich hysbysu pryd y gallai eich ardal brofi tarfu byr.
Mae nifer o leoedd astudio eraill ar gael ar y campws gan gynnwys Llyfrgell Campws y Bae, oherwydd ni fydd hyn yn effeithio arni. Gallwch chi bob amser gael mynediad at y rhan fwyaf o wasanaethau’r Llyfrgell ar-lein.
Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Llyfrgelloedd a Chasgliadau