– Neges gan ein adran Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd –
Yn ôl Arolwg Gyrfaoedd Cynnar diweddar (2025), canfu Prospects Limited fod 42% o fyfyrwyr a graddedigion yn nodi gofalu am iechyd meddwl fel un o’u heriau mwyaf. (4ydd ar ôl aros yn llawn cymhelliant, cydbwyso ymrwymiadau, ac arian).
Gall dod o hyd i waith, boed yn rhan-amser i gefnogi eich hun trwy eich astudiaethau neu lywio eich swydd raddedig gyntaf fod yn ffynhonnell straen ychwanegol.
Nid yw’r manteision yn ariannol yn unig hefyd, gall cwrdd â phobl newydd a datblygu sgiliau newydd helpu i ysgafnhau’r llwyth a gwella eich hyder. Dyna lle mae’r gefnogaeth gan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn disgleirio.
Rydyn ni yma i helpu pob cam o’r ffordd! Mae ein Cynghorwyr Gyrfaoedd arbenigol yn haws nag erioed i sgwrsio â nhw, siarad â ni ar LiveChat, galw heibio sesiwn neu drefnu apwyntiad 1-2-1 i ddechrau!
Os ydych chi’n teimlo bod eich iechyd meddwl yn rhwystr i gael gwaith, mae ein tîm Hwb Gyrfaoedd wrth law i ddarparu cymorth ychwanegol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ewch i’n tudalennau gwe hwb Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.