Dewch i ymuno â Chlwb Cymraeg!
Oes gennych chi ddiddordeb dysgu Cymraeg mewn amgylchedd hwyliog, cyfeillgar? Beth am ddod i ymuno â Clwb Cymraeg! Yn cael ei gynnal bob yn ail ddydd Mawrth yn y Lolfa Groeso ar Gampws Singleton, bydd cyfle i ddysgu Cymraeg drwy amrywiaeth o gemau a gweithgareddau! Mae Clwb Cymraeg yn berffaith i ddechreuwyr, felly p’un a ydych chi’n dysgu eich geiriau cyntaf yn y Gymraeg neu’n awyddus i ymarfer yr hyn rydych chi’n eu gwybod yn barod – mae croeso i chi alw heibio!
Bydd y sesiynau’n rhedeg rhwng 12pm ac 1pm ar:
- Dydd Mawrth 4 Tachwedd
- Dydd Mawrth 18 Tachwedd
- Dydd Mawrth 4 Rhagfyr
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!