Mae dy brofiad o gyrraedd, ein campysau, teithio ohonynt ac o’u cwmpas yn wirioneddol bwysig i ni.
O ganlyniad i’th adborth, rydym wedi gweld sawl gwelliant i wasanaethau bysiau ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys estyn y gwasanaeth X1 i Gampws Singleton a’r N91 sy’n rhedeg tan hanner nos. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod y gweithredu diwydiannol parhaus gan First Bus wedi tarfu’n sylweddol ar lawer ohonoch.
Rydym wedi cyflwyno amryw o fesurau eraill i gefnogi dy deithiau, gan gynnwys mynediad estynedig i safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian, gwelliannau i Feiciau Prifysgol Abertawe gyda hybiau newydd bellach ar waith a mwy wedi’u cynllunio. Yn ogystal, mae cymorth beicio amrywiol ar gael, o weithdai atgyweirio i farcio beiciau a goleuadau a chloeon am ddim.
Mae dy adborth parhaus yn ein helpu ni i:
- Gynllunio gwelliannau i deithio llesol, cymudo cynaliadwy a chyfleusterau’r campysau
- Darparu tystiolaeth i weithredwyr trafnidiaeth, gan gynnwys First Bus, i eirioli dros wasanaethau gwell a mwy dibynadwy
- Datblygu mentrau teithio yn y dyfodol sy’n cefnogi cymuned Prifysgol fwy gwyrdd ac iachach
Cymera ychydig funudau i gwblhau’r arolwg ar-lein.
Gad dy gyfeiriad e-bost ar y diwedd i gael dy gynnwys yn y raffl gwobrau.