Rydyn ni’n newid sut rwyt ti’n rhannu adborth â ni drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Byddwn ni’n gadael ein sianel adborth bresennol, Unitu, erbyn mis Mai, ac rydyn ni’n gofyn i ti bellach ddefnyddio ein porth adborth newydd yn lle hynny. Mae’r porth hwn yn symlach o lawer ac yn fwy greddfol ei natur, sy’n golygu ei fod yn llawer haws i ti ddweud dy ddweud.
Y porth adborth yw’r prif ffordd i ti rannu dy farn am dy brofiad fel myfyriwr yn ystod dy amser yn Abertawe. P’un a yw’n gadarnhaol, yn negyddol neu’n rhywle yn y canol, rydyn ni am glywed dy farn am fywyd myfyrwyr yn Abertawe.