Mae ein cynllun peilot Oriau Sgiliau Llyfrgell yn parhau’r tymor hwn.

Yn debyg i’r ffordd y mae gan dy fentoriaid personol a’th ddarlithwyr oriau swyddfa, bydd un o Uwch-swyddogion y Llyfrgell ar gael ar adegau penodol i ti alw heibio naill ai wyneb yn wyneb neu dros Zoom i helpu gydag ymholiadau.

Os nad oes angen apwyntiad llawn ar gyfer rhai ymholiadau, mae hyn yn rhoi cyfle i ti gael ateb cyflym, does dim angen cadw lle.  

Ein Horiau Swyddfa fydd:  

  • Bob dydd Llun 10.00-12.00, Ystafell Gyfweld 4,  Llyfrgell y Bae a thrwy  Zoom  
  • Bob dydd Iau 10.00-12.00, Ystafell Gyfweld 1,  Llyfrgell Parc Singleton a thrwy  Zoom  

Bydd y ddolen Zoom i’r sesiynau hyn yn aros yr un fath, felly os hoffet ti ymuno â sesiwn, cysyllta â ni yma. Fel arall, mae manylion y cyfarfod isod: 

ID Cyfarfod: 924 1150 1296  

Cyfrinair: 084479  

Pan fyddi di’n ymuno â’r alwad, efallai byddi di’n mynd i ystafell aros tra byddwn ni’n helpu myfyriwr arall. Os bydd hynny’n digwydd, diolch i ti am dy amynedd.  

Mae’r ddolen Zoom yr un peth bob wythnos ac mae ar gael yma. Mae hysbysebion papur hefyd ar gael ar ddesgiau’r llyfrgell o’r tymor diwethaf gyda manylion a chodau QR. 

Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi ar-lein neu yn ein llyfrgelloedd gan obeithio y byddi di’n cael ail dymor gwych. 

Llyfrgelloedd a Chasgliadau