/ Caffi Menopos
Pink and red flowers

Caffi Menopos

11th December 2024
1:30 pm - 3:00 pm

Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd gweithio cynhwysol a chefnogol i bawb sy’n gweithio yma.  Yn unol â hyn, ein nod yw creu sefydliad sy’n cefnogi cyfnod y menopos yn llawn ac yn gadarnhaol.  Mae ein polisi menopos yn nodi’r cyngor i aelodau staff a rheolwyr ar gynnig y gefnogaeth gywir i reoli symptomau’r menopos yn y gwaith.

O ran cynnig mwy o gymorth, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod gan y Brifysgol bellach ‘Gaffi Menopos’ swyddogol.  Bydd y caffi’n lle diogel i staff a myfyrwyr ac fe’i cynhelir bob ail ddydd Mercher y mis.

Cynhelir y caffi cyntaf ddydd Mercher 11 Rhagfyr 1:30-3pm yn Ystafell Atriwm a man ymneilltuo’r ILS (Campws Parc Singleton). Fformat y caffi fydd sgwrs fer ar bwnc penodol sy’n ymwneud â’r menopos ac yna ceir cyfle i ofyn cwestiynau a chael trafodaethau ymysg y grŵp.  

Bydd y gweithgor Menopos yn cynllunio ac yn hyrwyddo caffis yn y dyfodol i’r staff a myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn rhan sefydlog o gymorth y Brifysgol yn y maes hwn.

Os ydych yn mynd drwy’r menopos, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am y menopos, dewch draw i’r caffi. 

Ni fydd angen cadw lle, ond rydym yn awgrymu cyrraedd yn gynnar gan y rhagwelwn y bydd hwn yn ddigwyddiad misol poblogaidd iawn.