Efallai y byddwch chi eisoes yn gwybod bod Tŷ Fulton wedi derbyn llawer o waith adnewyddu gwych dros yr haf. Mae’r llawr cyntaf wedi’i drawsnewid i fod yn lle cymdeithasol sy’n ddeinamig ac yn gynhwysol lle gall myfyrwyr, staff a gweddill ein cymuned yn y Brifysgol ddod ynghyd i fwyta, cymdeithasu, astudio ac ymlacio.

Er ein bod ni wedi gwneud cynnydd da wrth uwchraddio’r adeilad dros yr haf, disgwylir i waith gwella’r adeilad barhau dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Wrth i ni barhau i gyflawni’r uwchraddiadau hyn, mae’n debygol y bydd lefelau sŵn yn cynyddu, gan gynnwys yn ystod sesiynau addysgu. Efallai y bydd effaith dros dro ar eich llwybrau a’ch mynediad arferol o amgylch yr adeilad. Mae arwyddion a chymorth canfod ffordd yn eu lle i’ch helpu. Os oes gennych chi sesiynau addysgu yn Nhŷ Fulton, rhowch amser ychwanegol i chi ymgyfarwyddo â’r llwybrau dros dro.

Os oes gennych chi broblemau symudedd ac yn defnyddio llwybrau hygyrch yn Nhŷ Fulton, bydd eich llwybrau arferol i Ddarlithfeydd B ac C wedi’u newid dros dro. Bydd angen i fyfyrwyr ag anawsterau symudedd:

  • Fynd drwy Ystafell Ddarlithio A i gyrraedd Ystafell Ddarlithio B (wrth fynd i’r ystafell a’i gadael)
  • Mynd drwy Ystafelloedd Darlithio A a B i gyrraedd Ystafell Ddarlithio C (wrth fynd i’r ystafell a’i gadael)

Mae’r llwybr mynediad dim ond yn berthnasol i fyfyrwyr ag anawsterau symudedd ac sy’n defnyddio llwybrau hygyrch. Bydd myfyrwyr heb yr anawsterau hyn yn gallu cael mynediad i’r holl ystafelloedd darlithio drwy lwybrau eraill a nodir gan arwyddion.

Wrth fynd drwy Ystafelloedd Darlithio A a B, sylwer y gall sesiynau addysgu eraill fod ar waith. Mae staff sy’n addysgu yn yr ystafelloedd hyn yn ymwybodol o’r gofynion mynediad a byddant yn eich croesawu ac yn eich annog i fynd drwyddynt. Gofynnir i chi fod yn barchus i staff a myfyrwyr a bod mor dawel â phosib.

Hoffem achub ar y cyfle hwn i annog unrhyw fyfyrwyr ag anawsterau symudedd i gysylltu â’r Swyddfa Anableddau (os yw’n briodol yn eich barn chi). Gall y tîm cyfeillgar helpu mewn sawl ffordd a rhoi’r holl wybodaeth, addasiadau a chymorth y mae eu hangen arnoch i chi.

Os ydych chi’n rhagweld neu’n canfod unrhyw broblemau, cysylltwch â Thîm Cymorth eich Cyfadran cyn gynted â phosib.

Rydym ni’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau ac yn defnyddio’r uwchraddiadau newydd i adeilad eiconig, a diolchwn i chi am eich amynedd a’ch cydweithrediad wrth i ni barhau i wella eich profiad fel myfyriwr.

Rhagor o wybodaeth am yr uwchraddiadau.[:]